Caerfyrddin 3–3 Y Seintiau Newydd

(Caerfyrddin yn ennill wedi C.O.S.)

Cododd Caerfyrddin Gwpan Word ar Barc Latham brynhawn Sadwrn ar ôl curo’r Seintiau Newydd gyda chiciau o’r smotyn.

Tair gôl yr un oedd hi wedi naw deg munud ac yn dilyn amser ychwanegol di sgôr, fe arbedodd Steve Cann gic o’r smotyn y gôl-geidwad arall, Paul Harrison, i ennill y gêm i’r tîm o’r de.

Hanner Cyntaf

Roedd y Seintiau ar y blaen wedi dim ond saith munud pan beniodd Steve Evans groesiad Sam Finley i gefn y rhwyd, er bod awgrym o drosedd yn gynharach yn y symudiad.

Tarodd y ddau dîm y pren wedi hynny, Ian Hillier i Gaerfyrddin a Mike Wilde i’r Seintiau ill dau yn penio yn erbyn y trawst.

Y Seintiau a gafodd y gorau o’r hanner ar y cyfan ond llwyddodd Caerfyrddin i unioni dri munud cyn yr egwyl pan wyrodd ergyd Craig Hughes oddi ar droed Evans a thros ben Harrison yn y gôl.

Ail Hanner

Dylai Wilde fod wedi rhoi’r Seintiau yn ôl ar y blaen ar ddechrau’r ail hanner ond fe wnaeth Sam Finley hynny toc cyn yr awr gydag ergyd gywir gydag ochr allan ei droed o bum llath ar hugain.

Ond roedd Caerfyrddin yn ôl yn gyfartal o fewn dau funud. Achosodd tafliad hir Ian Hillier broblemau yn amddiffyn y Seintiau a dangosodd Corey Thomas dechneg dda i sgorio ar y foli.

Ac roedd yr Hen Aur ar y blaen ychydig funudau’n ddiweddarach. Corey Thomas oedd y sgoriwr unwaith eto ac roedd hon yn well fyth. Disgynnodd y bêl iddo yn y cwrt cosbi a chrymanodd hi i’r gornel uchaf mewn steil.

Ond wrth i’r chwiban olaf agosáu a’r gwpan o fewn gafael Caerfyrddin, fe orfododd Wilde amser ychwanegol gyda pheniad penderfynol dros ben Cann.

Amser Ychwanegol

Daeth y ddau dîm o fewn modfeddi yn hanner cyntaf yr amser ychwanegol, Casey Thomas i Gaerfyrddin ac Aeron Edwards i’r Seintiau.

Yn yr ail hanner, roedd Conell Rawlinson yn meddwl ei fod wedi ennill y gêm i’r tîm o Groesoswallt ond gwelodd y dyfarnwr drosedd yn y cwrt cosbi cyn i’r amddiffynnwr benio i gefn y rhwyd. Dim amdani felly ond…

Ciciau o’r Smotyn

Arbedodd Harrison gynnig Tim Hicks cyn i Ryan Fraughan wneud ffŵl o’i hun gydag ymdrech haerllug.

Sgoriodd Liam Thomas, Casey Thomas a Craig Hanford dair cic nesaf Caerfyrddin ond methodd Chris Seargeant ac Harrison i’r Seintiau, wrth i dîm Mark Aizlewood gipio’r cwpan.

Ymateb

Seren y gêm, Nicky Palmer:

“Roedd gan bawb swydd i’w gwneud heddiw ac fe wnaeth bob un o’r bois y swydd honno ac rwyf mor falch i ni gael y canlyniad yn y diwedd. Dwi’n meddwl ein bod ni, ar y cyfan, oherwydd ein gwaith caled a’n penderfyniad yn haeddu’r canlyniad hwnnw.”

Rheolwr Caerfyrddin, Mark Aizlewood:

“Mae’r chwaraewyr wedi gweithio’n galed iawn. S’dim ots amdana i, mae popeth am y chwaraewyr, roedd pob un ohonynt yn arwr heddiw.”

.

Caerfyrddin

Tîm: Cann, Hillier, Hanford, Rees, Hicks, Cummings, Fowler (Corey Thomas 22’), Palmer, Casey Thomas (Hood 108’), Liam Thomas, Hughes (Doidge 81’)

Goliau: Hughes 41’, Corey Thomas 59’, 66’

Melyn: Casey Thomas 33’, Hicks 45’, Hillier 45’, Hanford 90’ Corey Thomas 91′

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Spender (Jones 70’), Marriott, Rawlinson, Evans, Seargeant, Finley (Fraughan 82’), A. Edwards, K. Edwards, Draper (Darlington 72’), Wilde

Goliau: Evans 6’, Finley 58’, Wilde 83’

Melyn: Finley 45’, Wilde 108’

.

Torf: 455