Sutton 0–5 Wrecsam
Mae Wrecsam drwodd i bedwaredd rownd Tlws yr FA yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus dros Sutton yn Gander Green Lane brynhawn Sadwrn.
Rhwydodd Robert Ogleyby y gyntaf i’r ymwelwyr o ogledd Cymru toc wedi hanner awr o chwarae ac agorodd hynny’r llifddorau wrth i’r Dreigiau ychwanegu tair arall cyn hanner amser.
Rhwydodd Nick Rushton, Johnny Hunt a Joe Clarke i gyd mewn cyfnod o chwe munud cyn yr egwyl.
Tawelodd pethau yn yr ail gyfnod ond fe lwyddodd Kevin Thornton i roi’r eisin ar y gacen gyda gôl yn ei gêm gyntaf dros y clwb.
Go brin fod y gystadleuaeth hon yn flaenoriaeth i’r tîm sydd ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square ond fydd Andy Morrell ddim yn cwyno gyda’i dîm gam yn nes at Wembley.