Lincoln 2–4 Casnewydd
Cododd Casnewydd i’r ail safle yn Uwch Gynghrair y Blue Square gyda buddugoliaeth dros Lincoln yn Stadiwm y Deuddegfed Dyn Sincil Bank brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd Aaron O’Connor a Robie Willmott ddwy gôl yr un yn yr hanner cyntaf i roi mantais iach i Gasnewydd, ac er i Lincoln ymateb gyda goliau hwyr yn y ddau hanner, roedd yr ymwelwyr o Gymry wedi gwneud digon i ennill y gêm.
Rhwydodd O’Connor y gôl agoriadol hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf gydag ergyd dda o bellter cyn dyblu’r fantais gyda gôl symlach ddeg munud cyn yr egwyl.
Ymunodd Willmott yn y sgorio yn fuan wedyn a hynny yn ei gêm gyntaf dros y clwb. Daeth Michael Flynn o hyd iddo yn y cwrt cosbi ar gyfer ei gyntaf cyn iddo rwydo’i ail yn dilyn pas Christian Jolley, i gyd cyn yr egwyl.
Fe sgoriodd Vadaine Oliver rhwng dwy ymdrech Willmott i roi llygedyn o obaith i Lincoln, ac er na ychwanegodd Casnewydd at eu pedair gôl hwy yn yr ail hanner, bu rhaid aros tan ddeuddeg munud o’r diwedd am ymateb gan y tîm cartref hefyd. Dim ond gôl gysur oedd ymdrech Chris Bush felly wrth i’r Cymry gipio’r pwyntiau i gyd.
Ac mae’r pwyntiau hynny yn ddigon i’w codi i’r ail safle yn nhabl y Blue Square, bwynt yn unig y tu ôl i Wrecsam ar y brig.
.
Lincoln
Tîm: Farman, Robson (Nicolau 46’), Bush, Boyce (Robinson 46’), Miller, Power, Sheridan, Gray, Taylor, Oliver, Larkin
Goliau: Oliver 44’, Bush 78’
Cardiau Melyn: Power 59’, Oliver 90’
.
Casnewydd
Tîm: Julian, Pipe, Hughes, James, Sandell, Porter (Minshull 46’), Evans (Crow 79’), Flynn, Willmott (Swallow 84’), O’Connor, Jolley
Goliau: O’Connor 22’, 37’, Willmott 40’, 45’
Cardiau Melyn: Evans 32’, Pipe 76’, Jolley 90’
.
Torf: 1,970