Caerdydd 0–0 Ipswich

Di sgôr oedd hi rhwng Caerdydd ac Ipswich yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn wrth i’r Adar Gleision aros ar frig y Bencampwriaeth.

Er mai’r tîm cartref gafoddd y gorau o’r meddiant a’r cyfleoedd yn y ddau hanner, Ipswich a ddaeth agosaf at sgorio.

Tarodd Guirane N’Daw y postyn gydag ergyd gadarn o bellter yn yr hanner cyntaf ac ergydiodd yr eilydd, Frank Nouble, fodfeddi heibio’r postyn ym munudau olaf y gêm.

Bu rhaid i’r ddau dîm setlo am bwynt yr un yn y diwedd wrth i Gaerdydd fethu ag ennill gartref am yr eildro yn unig y tymor hwn.

Mae tîm Malky Mackay yn aros ar frig y Bencampwriaeth serch hynny ond gall Hull gau’r bwlch arnynt gyda buddugoliaeth dros Sheffield Wednesday yn y gêm hwyr.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Taylor, Hudson, Turner, Connolly, Whittingham, Conway (Helguson 86’), Noone (Smith 68’), Gunnarsson, Gestede (Mason 46’), Bellamy

.

Ipswich

Tîm: Loach, Cresswell, Chambers, Smith, Orr, Edwards, N’daw, Martin (Nouble 80’), Hyam, McGoldrick (Murphy 65’), Mclean (Chopra 61’)

Cardiau Melyn: Hyam 78’, Orr 90’

.

Torf: 22,724