Everton 0–0 Abertawe
Cipiodd Abertawe bwynt da oddi cartref yn erbyn Everton gyda gêm gyfartal ddi sgôr ar Barc Goodison brynhawn Sadwrn.
Everton gafodd y gorau o’r cyfleoedd yn yr hanner cyntaf a gallai Marouane Fellaini fod wedi sgorio yn y munud cyntaf un ond ergydiodd yn syth at Michel Vorm.
Daeth cyfle gwell fyth i Nikica Jelovic yn fuan wedyn pan groesodd Steven Pienaar iddo yn y cwrt chwech ond tarodd y blaenwr ei ergyd wan heibio’r postyn.
Bu bron i’r blaenwr arall, Victor Anichebe, rwydo gyda pheniad wedi hanner awr o chwarae ond llwyddodd Vorm ac Ashley Williams rhyngddynt i’w rwystro.
Bu rhaid aros tan ddeg munud cyn yr egwyl am gyfle cyntaf Abertawe ond tarodd ymdrech Miguel Michu yn erbyn y trawst diolch i flaen bys Tim Howard yn y gôl i’r tîm cartref.
Roedd digon o amser am gyfle arall i Fellaini cyn yr egwyl ond arbediad cyfforddus i Vorm oedd y canlyniad eto.
Ychydig iawn o gyfleoedd a gafwyd yn yr ail hanner ond doedd Abertawe ddim yn cwyno’n ormodol wrth iddynt ddal eu gafael ar bwynt gwerthfawr oddi cartref, pwynt sydd yn eu codi i’r nawfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair.
.
Everton
Tîm: Howard, Baines, Jagielka, Distin, Neville (Naismith 69’), Coleman, Osman, Pienaar, Fellaini, Jelavic, Anichebe (Vellios 83’)
Melyn: Baines 81’
.
Abertawe
Tîm: Vorm, Chico, Williams, Tiendalli, Rangel, Davies, Michu (Graham 82’), Pablo (Routledge 73’), Dyer (De Guzman 58’), Ki Sung-Yeung, Agustien
Cardiau Melyn: Pablo 59, Michu 62’, Vorm 88’, Tiendalli 90’
.
Torf: 35,782