Toulon 45–25 Gleision

Mae tymor siomedig y Gleision yng Nghwpan Heineken yn parhau yn dilyn cweir gan Toulon yn y Stade Felix Mayol brynhawn Sadwrn.

Mae’r rhanbarth o Gymru yn sownd ar waelod grŵp 6 ar ôl colli pumed gêm allan o bump. Fe wnaeth Leigh Halfpenny ac Alex Cuthbert sgorio tri chais rhyngddynt i’r Gleision ond llwyr reolodd Toulon y frwydr gan sgorio saith.

Dechreuodd pethau’n addawol i’r Gleision gyda chic gosb gynnar Halfpenny ac ychwanegodd y cefnwr gais wedi deunaw munud hefyd i roi wyth pwynt o fantais i’r ymwelwyr ar ôl chwarter y gêm.

Ond dim ond Toulon oedd ynddi wedyn a sefydlodd y Ffrancwyr fantais iach erbyn hanner amser diolch i geisiau yr asgellwr, Rudi Wulf; a’r ddau aelod rheng flaen, Xavier Chiocci a Jean-Charles Orioli.

Dechreuodd Toulon yr ail hanner yn yr un modd gan ychwanegu tri chais arall cyn yr awr gyda’r canolwyr, Maxime Mermoz a Mathieu Bastareaud; a’r asgellwr, Alexis Palisson, yn sgorio.

Roedd digon o amser ar ôl i’r eilydd, Florian Freisa, sgorio seithfed Toulon, ac i Cuthbert ac Halfpenny sgorio dau gais cysur i’r Gleision, ond roedd y gêm wedi ei hen ennill erbyn hynny.

Mae’r canlyniad yn codi Toulon dros Montpellier i frig grŵp 6 tra mae’r Gleision yn aros ar y gwaelod gyda dim ond un pwynt.

.

Toulon

Ceisiau: Rudi Wulf 21’, Chiocci 27’, Oeioli 36’, Mermoz 43’, Palisson 49’, Bastareaud 54’, Florian Fresia 63’

Trosiadau: Jonny Wilkinson 22’, 28’, 44’, 50’, Matt Giteau 64’

.

Gleision

Cais: Leigh Halfpenny 18’, Alex Cuthbert 66’

Trosiad: Leigh Halfpenny 80’

Cic Gosb: Leigh Halfpenny 2’