Mae’n anhebyg y bydd canolwr y Gweilch, Ashley Beck yn chwarae rygbi eto cyn dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, wrth iddo barhau i ddioddef anaf i’w ffêr.  Beck yw’r diweddaraf o nifer o chwaraewyr Cymru i ddioddef anafiadau, ffaith sy’n achosi cur-pen I’r hyfforddwr Rob Howley.

Cafodd Beck, sy’n 22, ei anafu yng ngêm y Gweilch yn erbyn y Dreigiau ddiwedd mis Rhagfyr, ac nawr mae’r clwb wedi dweud y bydd yn annhebygol o wella cyn diwedd Chwefror.  Mae’n golygu y bydd yn debygol o fethu mwyafrif o gemau’r Chwe Gwlad.

Mae’r canolwr ifanc wedi dod yn rhan bwysig o garfan Cymru, ond nawr mae’n ymuno â Rhys Priestland, Luke Charteris ac Aaron Jarvis ar restr y cleifion.

Mae rhyw obaith i Rob Howley yn y ffaith bod disgwyl i Dan Lydiate ac Alun Wyn Jones fedru chwarae yn y Bencampwriaeth, ond mae digon i Howley gysidro cyn cyhoeddi ei sgwad wythnos nesaf.