Justin Tipuric
Mae blaenasgellwr y Gweilch, Justin Tipuric wedi gwella o anaf i chwarae yn erbyn Caerlŷr yn y Cwpan Heiniken.  Bydd y newyddion yn hwb mawr i’r Gweilch, sy’n croesawu Ryan Jones yn ôl I rengoedd y blaenwyr hefyd.

Bydd Caerlŷr yn ymweld â Stadiwm y Liberty b’nawn Sul, ac mae’r hyfforddwr Steve Tandy yn credu mai dyma un o’r gemau fwyaf sydd i’w cael.  “Mae’n gêm enfawr, ac nid yw’n un lle y gallwn ni fforddio i wneud camgymeriadau.  Rhaid i bob dim fod yn berffaith, y paratoi ac ein agwedd, os ydym am gael unrhywbeth o’r gêm,” meddai.

Mae Andrew Bishop hefyd yn ennill lle nôl yng nghanol y cae i’r Gweilch, ond ni fydd ei gyd-ganolwr Ashley Beck yn chwarae, gan ei fod yn dal i ddioddef o anaf i’w ffêr.

Mae’n gêm hynod bwysig i’r Gweilch, a rhaid iddyn nhw ennill er mwyn cael siawns o barhau yn y gystadleuaeth, ac mae Tandy yn obeithiol am berfformiad da.

“Mae gan Gaerlŷr y fantais yn y grŵp ar hyn o bryd ond mae dal posib i ni gyrraedd y rownd nesaf.  Gyda torf fawr a swnllyd gall unrhywbeth ddigwydd yma.  Mae hi’n siwr o fod yn gêm dda.”

Gweilch v Caerlŷr, tri o’r gloch, dydd Sul.

Tîm llawn: 15 Richard Fussell 14 Ross Jones 13 Tom Isaacs 12 Andrew Bishop 11 Eli Walker 10 Dan Biggar 9 Kahn Fotuali’i (Capt)

1 Ryan Bevington 2 Richard Hibbard 3 Adam Jones 4 Ian Gough 5 James King 6 Ryan Jones 7 Justin Tipuric 8 Joe Bearman

Eilyddion: 16 Scott Baldwin 17 Duncan Jones 18 Campbell Johnstone 19 Lloyd Peers 20 Sam Lewis/Jonathan Thomas 21 Rhys Webb 22 Matthew Morgan 23 Jonathan Spratt