Y cawr yn ymlacio'i gyhyrau
Bydd y Scarlets yn teithio i Leinster heb eu hasgellwr George North yfory, gan nad yw’r Cymro wedi gwella yn llawn ers dioddef anaf i’w wddf. Ond mae Liam Williams a Ken Owens yn dychwelyd i’r tîm i chwarae ym mhumed rownd y Cwpan Heiniken.
Mae’r hyfforddwr Simon Easterby yn ceisio delio gyda sawl anaf yn ei garfan ar hyn o bryd, ond mae’n sicr y bydd cael chwarae pencampwyr Ewrop yn Nulyn yn ddigon i ysgogi perfformiad da gan ei dîm.
“Rydyn ni’n wynebu dwy gêm yn y cwpan Heineken, ac un o rheiny yn erbyn y pencampwyr,” meddai Easterby. “Bydd y gemau yma yn dangos sut siâp sydd ar y grŵp, a helpu i ni symud ymlaen i weddill y tymor.”
Dywedodd bod y chwaraewyr wedi cael wythnos bositif o hyfforddi, ac eu bod am anghofio’r golled i Ulster wythnos ddiwethaf.
Mae Easterby hefyd wedi gallu cynnwys Matthew Rees a Jonathan Davies yn ei sgwad i deithio i Ddulyn, wedi iddyn nhw wella o anafiadau.
Nid yw’r Scarlets yn gallu symud ymlaen i rownd nesaf y gystadleuaeth, ond ni fydd hyn yn effeithio ar ymdrech y tîm yn ôl Easterby. “Byddwn ni ond yn mynd allan i chwarae yn y pythefnos nesaf i ennill gemau, bydd hynny byth yn newid”.
Mae’r Scarlets yn herio Leinster nos yfory am chwech o’r gloch.
Tîm llawn:
15 Liam Williams 14 Andy Fenby, 13 Gareth Maule, 12 Scott Williams, 11 Kristian Phillips, 10 Aled Thomas, 9 Tavis Knoyle, 1 Phil John, 2 Ken Owens, 3 Jacobie Adriaanse, 4 George Earle, 5 Richard Kelly, 6 Rob McCusker (capt) 7 Josh Turnbull, 8 Kieran Murphy.
Eilyddion: 16 Matthew Rees, 17 Rhodri Jones, 18 Samson Lee, 19 Johan Synman, 20 Sione Timani, 21 Gareth Davies, 22 Jonathan Davies, 23 Adam Warren