Peter Whittingham
Bydd chwaraewyr Caerdydd yn gobeithio anghofio’r golled yn erbyn Macclesfield penwythnos dwethaf, wrth iddyn nhw groesawu Ipswich i’r brifddinas yfory.

Dyma gêm gyntaf dynion Malky Mackay ers y golled annisgwyl yng nghwpan yr FA, a bydd y tîm yn edrych am well perfformiad i ymestyn y bwlch ar frig y Bencampwriaeth.

Mae cael Peter Whittingham yn ôl yn y garfan yn hwb mawr i Gaerdydd, wedi iddo wella o anaf i’w goes yn gynt na’r disgwyl. Hefyd mae’n debygol y bydd y canolwr Tommy Smith yn rhan o’r chwarae.

“Mae gan Tommy lawer o brofiad yn y gyngrhair yma ac mae’n gwybod sut i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair hefyd,” meddai’r rheolwr, Mackay.  “Mae cael Tommy yn ôl i’r 20 o gemau sy’n weddill y tymor yma fel cael chwaraewr newydd i’r tîm.  Mae’n chwaraewr sydd wedi gwella safon y garfan i gyd.”

Mae Caerdydd yn dechrau’r gêm ar frig y Bencampwriaeth, saith pwynt o flaen Hull yn yr ail safle, a bydden nhw’n awyddus i ymestyn y bwlch yna yn erbyn Ipswich, sydd heb fuddugoliaeth yn 2013 hyd yma.