Leigh Halfpenny
Bydd Leigh Halfpenny ac Alex Cuthbert yn ôl i’r Gleision yfory pan fyddan nhw’n herio Toulon oddi cartref ym mhumed rownd y Cwpan Heiniken.

Mae’r cefnwyr yn ddau o bedwar newid i’r tîm a gurodd Munster wythnos dwethaf, gyda Gavin Evans yng nghanol y cae a James Down yn yr ail reng hefyd yn cael eu cynnwys.

Er na all y Gleision gyrraedd rownd nesaf y gystadleuaeth, mae’r Cyfarwyddwr Rygbi, Phil Davies wedi pwysleisio pwysigrwydd gweddill y gemau yn y rownd yma.  Mae’r chwe tîm sy’n gorffen uchaf yn y gystadleuaeth yn osgoi ei gilydd yn ngemau agoriadol y tymor nesaf.

“Rydym ni yn amlwg eisiau aros yn y rheng uwch felly mae’n rhaid i ni barhau i weithio’n galed ac os medrwn ni gael y canlyniadau sydd angen, bydd hynny’n fendigedig,” meddai Davies.  “Mae’r tîm yn teithio I’r cyfeiriad cywir, ac os allwn ni barhau i gael canlyniadau da bydd gan bawb fwy o hyder.”

Bydd y gêm yn dechrau am 13.35 yn Stade Felix Mayol.

Tîm llawn:

15. Leigh Halfpenny 14. Alex Cuthbert 13. Gavin Evans 12. Jamie Roberts 11. Harry Robinson 10. Rhys Patchell 9. Lewis Jones

8. Robin Copeland 7. Sam Warburton 6. Josh Navidi (c ) 5. Lou Reed 4. James Down 3. Beniot Bourrust 2. Rhys Williams 1. Sam Hobbs

16. Kristian Dacey 17. Nathan Trevett 18. Scott Andrews 19. Macauley Cook 20. Luke Hamilton 21 Gareth Davies 22. Ceri Sweeney 23. Owen Williams