Michu
Mae rheolwr Abertawe Michael Laudrup wedi galw blaenwr yr Elyrch, Michu, yn “fargen y tymor”, ac nid yw’n disgwyl i’r Sbaenwr adael y clwb ym mis Ionawr.

Dywedodd Laudrup bod cryn diddordeb gan glybiau eraill yn y Sbaenwr, ond nifer fach o glybiau Ewrop all fforddio’r Sbaenwr bellach meddai.

Mae Michu wedi sgorio 16 o goliau i Abertawe ers symud o Rayo Vallecano yn yr hâf, ffaith sydd wedi arwain Laudrup i roi pris o £30 miliwn ar y blaenwr.  “Mae’n cael un cyfle, ac yn cael un gôl.  Dyna flaenwr o’r safon uchaf,” meddai.

Serch hynny, nid oes disgwyl i’r Elyrch werthu seren y tîm yn y ffenestr drosglwyddo bresennol, ac mae’r rheolwr yn disgwyl iddo fod yn chwarae yn y Liberty am o leiaf chwe mis arall.

“Mae o’n hapus yma, yn hapus hefo’r tîm ac yn hapus lle mae o,” meddai Laudrup.

Everton oddi cartre’ yfory

Bydd Abertawe yn herio Everton yfory ym Mharc Goodison, a byddai buddugoliaeth yn eu symud nhw yn uwch na Lerpwl i’r wythfed safle yn yr Uwch Gynghrair.  Ond ni fydd yn dasg hawdd i’r Elyrch, gan bod David Moyes ac Everton ond wedi colli unwaith yn Goodison y tymor yma.