Bayonne 25–22 Dreigiau
Bu ond y dim i’r Dreigiau guro Bayonne yng ngrŵp 3 Cwpan Amlin nos Iau ond cipiodd y mewnwr o Gymro, Mike Phillips, y fuddugoliaeth i’r tîm cartref gyda chais hwyr yn y Stade Jean Dauger.
Roedd y Cymry ar y blaen ar hanner amser ac am ran helaeth o’r ail hefyd diolch i gais Lewis Evans a chicio Tom Prydie, ond gorchfygwyd amddiffyn dewr y Dreigiau am y trydydd tro yn y munudau olaf wrth i’r tîm o Wlad y Basg ennill o dri phwynt.
Hanner Cyntaf
Cyfartal oedd hi wedi’r chwarter cyntaf ar ôl i’r ddau giciwr, Jacques-Louis Potgieter a Prydie gyfnewid ciciau cosb.
Adferodd Potigeter fantais y Ffrancwyr gydag ail ymgais lwyddiannus at y pyst ond yr ymwelwyr o Gymru a orffennodd yr hanner gryfaf.
Croesodd Lewis Evans am gais cyntaf y gêm wedi i Mike Poole daro cic Potgieter i lawr ac ychwanegodd Prydie y trosiad a dwy gôl gosb cyn yr egwyl i roi deg pwynt o fantais i’r Dreigiau.
Ail Hanner
Dechreuodd y Dreigiau’r ail hanner ar dân hefyd ond tarodd Prydie y postyn gyda chyfle hawdd i ymestyn y fantais ym mhellach.
Gwnaeth y cefnwr yn iawn am hynny yn fuan wedyn wrth drosi pedwaredd cic gosb, ond fe ddeffrodd Bayonne wedi hynny.
Daeth cais cyntaf y tîm cartref i’r eilydd fachwr, David Roumieu, yn dilyn sgarmes symudol ac roedd Bayonne o fewn un sgôr yn dilyn trosiad Potgieter.
Daeth Phillips i’r cae yn fuan wedyn ac fe wnaeth argraff yn syth, ei bas hir ef a ddaeth o hyd i’r cefnwr, Sam Gerber, i sgorio ail gais y tîm cartref.
Ond tarodd y Dreigiau yn ôl yn syth gyda chic gosb arall o droed Prydie ac roeddynt bedwar pwynt ar y blaen gyda deg munud i fynd.
Ond er gwaethaf ymdrech ddewr, gorchfygwyd amddiffyn y Dreigiau dri munud o’r diwedd pan hyrddiodd Phillips drosodd ar ôl cymryd cic gosb gyflym.
.
Bayonne
Ceisiau: David Roumieu 55’, Sam Gerber 66’, Mike Phillips 77’
Trosiadau: Jacques-Louis Potgieter 56’, Matthieu Ugalde 79’
Ciciau Cosb: Jacques-Louis Potgieter 2’, 22’
Cerdyn Melyn: Sam Gerber 30’
.
Dreigiau
Cais: Lewis Evans 23’
Trosiad: Tom Prydie 24’
Ciciau Cosb: Tom Prydie 11’, 31’, 37’, 53’, 69’