Dan Lydiate
Mae blaen asgellwr rhyngwladol y Dreigiau, Dan Lydiate yn edrych ymlaen at ddychwelyd, i’r  “stadiwm gorau yn y byd” fis nesaf.

Mae Lydiate yn gobeithio ail-ymuno â Chymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, yn enwedig y gemau cartref yn erbyn Iwerddon a Lloegr.

Ond yn ogystal â hynny, mae Lydiate yn llygadu’r gêm yn erbyn y Sgarlets ar 30 Mawrth.  Hefyd bydd y Gleision yn chwarae yn erbyn y Gweilch yr un diwrnod.

‘‘Rwyf wrth fy modd yn chwarae yn y Stadiwm, ac yn bersonol rwy’n credu mai dyma’r stadiwm gorau yn y byd,’’ meddai Lydiate.

‘‘Rwy’n siŵr bod yr holl dimau yn edrych ymlaen at chwarae yn y Stadiwm.  Bydd rhai chwaraewyr yn cael y cyfle cyntaf i chwarae yno, ac i eraill yn gyfle i fynd yn erbyn ei ffrindiau sydd yng ngharfan Cymru gyda hwy.

“Yn sicr, ‘dydd y farn’ fydd hi’r diwrnod hwnnw,’’ ychwanegodd Lydiate.