Mae Cyfarwyddwr y Gleision Phil Davies wedi dweud nad yw’n credu bod y maswr Rhys Patchell yn barod ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Dydd Mawrth nesaf fe fydd y tîm cenedlaethol yn cael eu cyhoeddi a dywedodd hyfforddwr dros dro Cymru, Robert Howley bod Patchell yn cael ei ystyried am y garfan.

‘‘Am chwaraewr ifanc, mae Rhys yn datblygu’n gorfforol, yn dechnolegol ac yn dactegol, ond mae’n dal i ddysgu ei grefft,’’ meddai Phil Davies.

‘‘Byddaf yn gwneud yn siŵr ei bod yn cael gofal yma, ac rwy’n siŵr ymhen ychydig y bydd yn gaffaeliad i ni ac i Gymru,’’ ychwanegodd Davies.