Leigh Halfpenny
Bydd Gleision Caerdydd yn croesawu dau o’u chwaraewyr gorau yn ôl ar gyfer y gêm oddi cartref yn Munster nos yfory.

Mae’r cefnwr Leigh Halfpenny a’r canolwr Jamie Roberts ill dau wedi gwella o anafiadau gafwyd yn y golled o drwch blewyn i Awstralia ar gynffon cyfres yr Hydref.

Wynebau newydd

Bydd Richard Smith yn chwarae ei gêm gynta’ un dros y Gleision nos yfory, gan ffurfio partneriaeth newydd sbon gyda Jamie Roberts yn y canol.

Eisoes yn chwarae’n gyson gyda thîm saith-bob-ochr Cymru, mae Smith yn redwr cryf sy’ wedi magu profiad gyda chlybiau Castell Nedd a’r Brisbane Bulldogs.

Wyneb newydd arall ar y fainc yw’r prop 22 oed o Romania, Petru Tamba. Er nad yw eto i chwarae i’r rhanbarth, bu’n rhan o dîm Romania wynebodd Japan ac America cyn y Dolig.