Mae clwb pêl-droed Caerdydd wedi dweud fod yr ymosodwr Robert Earnshaw yn dod nôl i’r clwb ar ôl treulio cyfnod ar fenthyg yn Israel.

Cafodd Earnshaw ei drosglwyddo i glwb Maccabi Tel Aviv ym mis Medi ond yn ôl gwefan Caerdydd ni fydd yr ymosodwr yn chwarae dros Maccabi yn erbyn Kiryat Shmona ddydd Llun.

Yn ystod ei gyfnod yn Tel Aviv disgrifiodd Robert Earnshaw ei bryder wrth weld taflegrau yn cael eu saethu dros y ddinas yn ystod yr anghydfod rhwng lluoedd Israel a milwriaethwyr yn Gaza.

Mae Earnshaw, sy’n 31, wedi sgorio 16 gôl dros Gymru mewn 58 ymddangosiad ac roedd yng ngharfan Chris Coleman ar gyfer y gemau yn erbyn Gwlad Belg a Serbia ym mis Medi.