Parc y Sgarlets
Mae’r Sgarlets ac Ulster wedi cyhoeddi eu timau ar gyfer y frwydr nos Wener rhwng y ddau dîm sydd ar frig y gynghrair.

Mae’r Sgarlets yn brin o 11 chwaraewr o achos anafiadau, ac mae’r canolwr Gareth Owen wedi ei wahardd am dair wythnos, tra bod Ulster wedi dewis tîm cryf ar ôl gorffwys enwau mawr megis Ruan Pienaar ac Andrew Trimble ar gyfer y golled yn erbyn Munster.

Ond mae’r chwaraewyr rhyngwladol George North, Jonathan Davies, Tavis Knoyle a Jacobie Aadrianse yn nhîm y Sgarlets wrth i’r hyfforddwr Simon Easterby gydnabod nad yw hi wedi bod yn gyfnod da i’r Sgarlets yn ddiweddar.

Cafon nhw grasfa wythnos ddiwethaf yn erbyn eu gelynion pennaf, y Gweilch, ac maen nhw wedi colli pob gêm yn Ewrop.

Mae gêm galed yn eu hwynebu yn Ravenhill, ble mae pob tocyn wedi eu gwerthu a lle nad yw Ulster wedi colli eleni yn y Rabo Direct Pro 12.

“Fe ddangoson ni ar Barc y Sgarlets ym mis Rhagfyr ein bod ni’n gallu creu cyfleon yn erbyn Ulster,” meddai Simon Easterby.

“Tro yma mae’n rhaid i ni gymryd mantais o hynna.”

Parc Ravenhill, Belfast, cic gyntaf am 7.05 nos Wener

Ulster

15  A D’Arcy, 14 A Trimble, 13 D Cave, 12 L Marshall, 11 C Gilroy, 10 P Jackson, 9 R Pienaar,
1 T Court, 2 R Herring, 3 A Macklin, 4 L Stevenson, 5 D Tuohy, 6 R Diack, 7 C Henry (c), 8 N Williams.

Eilyddion: N Annett, C Black, J Afoa, N McComb, R Wilson, M Heaney, P Wallace, R Andrew.

Sgarlets

15 Dan Newton 14 George North, 13 Gareth Maule, 12 Jonathan Davies (c), 11 Kristian Phillips, 10 Aled Thomas, 9 Tavis Knoyle,

1 Phil John, 2 Emyr Phillips, 3 Jacobie Adriaanse, 4 Sione Timani, 5 Richard Kelly, 6 Josh Turnbull, 7 Johnathan Edwards, 8 Rob McCusker

Eilyddion: 16 Kirby Myhill, 17 Rhodri Jones, 18 Deacon Manu, 19 Tomas Vallejos, 20 Craig Price, 21 Gareth Davies, 22 Scott Williams, 23 Adam Warren