Stadiwm y Liberty yn Abertawe
Roedd blwyddyn gyntaf Abertawe yn uwchgynghrair Lloegr yn werth £58m i’r economi leol.
Dyna medd astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd, sydd wedi dod i’r casgliad fod 400 o swyddi wedi cael eu creu – 340 ohonyn nhw yn Abertawe – gan dymor yr Elyrch yn un o gynghreiriau chwaraeon mwya’r byd.
“Mae’n wych fod y clwb wedi medru hyrwyddo Abertawe a’r ardal, yn economaidd ac fel dinas,” meddai cadeirydd clwb Abertawe, Huw Jenkins.
“Mae ein partneriaeth ni gyda’r cyngor lleol, yn benodol eu cefnogaeth wrth adeiladu Stadiwm y Liberty, wedi’n helpu ni i dyfu ac i lansio Abertawe i gynulleidfa fyd-eang,” meddai.
Yn ôl y Cynghorydd Nick Bradley, sy’n gyfrifol am adfywiad economaidd ar gabinet cyngor Abertawe, mae “gwerth llwyddiant yr Elyrch i’r economi leol yn fwy na’r wobr ariannol gafodd Chelsea am ennill Cynghrair y Pencampwyr.”
Yn ôl yr astudiaeth, clwb Abertawe ei hun wnaeth elwa fwyaf yn ariannol o’r tymor, ond cafodd y mwyafrif o’r swyddi newydd eu creu mewn meysydd y tu hwnt i’r pêl-droed, mewn bwytai, tafarnau a gwestai lleol.