Prestatyn 4–1 Bangor


Prestatyn aeth â hi yn y frwydr fawr ar Erddi Bastion o flaen camerâu Sgorio brynhawn Mawrth er mai Bangor sgoriodd y gôl gyntaf.

Unionodd Andy Parkinson cyn yr egwyl yn dilyn gôl agoriadol Les Davies, ac yna sgoriodd Michael Parker, Jason Price a Ross Stephens yn yr ail gyfnod i ennill y gêm i’r tîm cartref.

Prestatyn a Parkinson gafodd y cyfle clir cyntaf ond llwyddodd Lee Idzi i arbed mewn sefyllfa un ar un.

Gwnaeth gôl-geidwad Prestatyn, Lee Kendall, yn union yr un peth ar ddau achlysur yn y pen arall i atal Chris Simm hefyd cyn i Davies agor y sgorio wedi hanner awr. Cafwyd gwaith da a chroesiad cywir gan Sion Edwards ar y chwith cyn i Davies orffen gyda foli gelfydd yn y cwrt cosbi.

Tarodd Parkinson y postyn wedi hynny cyn unioni’r sgôr bum munud cyn yr egwyl yn dilyn camgymeriad amddiffynnol gan Fangor. Ceisiodd Michael Johnston benio’r bêl yn ôl i Idzi ond doedd dim digon o nerth arni a manteisiodd Parkinson i sgorio.

Roedd y gwynt gyda’r tîm cartref yn yr ail hanner ac roeddynt ar y blaen o fewn dim o beth diolch i Parker. Arbedodd Idzi ei gynnig cyntaf ond rhwydodd Parker ar yr ail gynnig.

Roedd hi’n dair toc wedi’r awr wedi i Price ymateb yn gynt na neb i rwydo ar ôl i gynnig Parkinson daro’r trawst. A chwblhaodd Stephens y sgorio gyda chic rydd daclus o ugain llath yn fuan wedyn.

Ymateb

Neil Gibson, chwaraewr- gyfarwyddwr pêl droed Prestatyn:

“Rydym wedi bod yn siomedig yn y gemau byw hyd yn hyn y tymor hwn ac roedd gennym bwynt i’w brofi. Fe siaradom ni am hynny cyn y gêm ac fe lwyddon ni i roi sioe go lew a dangos i bobl pam yr ydym yn agos at frig y gynghrair.”

Nev Powell, rheolwr Bangor:

“Fe wnaethom ni reoli’r gêm yn yr hanner cyntaf ond yn amlwg roedd y gwynt yn ffactor. Fe wnaethon nhw amddiffyn y gwynt hwnnw fymryn yn well na ni a dyna oedd y gwahaniaeth.”

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Prestatyn dros Fangor i’r ail safle yn nhabl Uwch Gynghrair Cymru.

.

Prestatyn

Tîm: Kendall, Stones, Stephens, Hayes, O’Neill, Wilson (Kemp 47’), Parker, Gibson, Parkinson, Price, Stephens

Goliau: Parkinson 39’, Parker 52’, Price 64’, Stephens 67’

Melyn: Price 18’, Stones 88’

.

Bangor

Tîm: Idzi, Hoy, Roberts, Brewerton (Morley), Johnston, Jones (Smyth 83’), Allen, R. Edwards, Davies, Simm, S. Edwards

Gôl: Davies 29’

Melyn: Davies 14’, Brewerton 27’, Roberts 67’

.

Torf: 406