Casnewydd 0–5 Forest Green

Llithrodd Casnewydd i’r trydydd safle yn Uwch Gynghrair y Blue Square yn dilyn cweir gan Forest Green ar Rodney Parade brynhawn Mawrth. Sgoriodd James Norwood hatric wrth i’r ymwelwyr ennill yn gyfforddus.

Rhwydodd Norwood ei gyntaf saith munud cyn yr egwyl cyn i Yan Klukowski ddyblu’r fantais yn eiliadau olaf yr hanner.

Sgoriodd Norwood ei ail ef a thrydedd ei dîm hanner ffordd trwy’r ail hanner cyn cwblhau ei hatric ddeuddeg munud o’r diwedd gydag ergyd daclus o ddeunaw llath.

Roedd gôl i’r eilydd, Reece Styche, rhwng y ddwy honno ar brynhawn diflas iawn i Gasnewydd.

Mae’r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn codi dros Gasnewydd i’r ail safle yn nhabl y Gyngres.

.

Casnewydd

Tîm: Julian, James, Yakubu, Anthony, Porter, Swallow (Washington 73’), Sandell, Evans (Minshull 73’), Flynn, O’Connor, Smith (Charles 54’)

Cerdyn Melyn: Evans 72’

.

Forest Green

Tîm: Russell, Hodgkiss, Stokes (Asafu-Adjaye 75’), Oshodi, Racine, Bangura, Klukowski, Forbes (Rowe 72’), Brogan (Styche 56’), Taylor, Norwood

Goliau: Norwood 38’, 68’, 78’, Klukowski 45’, Styche 74’

Cerdyn Melyn: Oshodi 59’

.

Torf: 2,787