Birmingham 0–1 Caerdydd
Ymestynnodd Caerdydd eu mantais ar frig y Bencampwriaeth wrth i’w rhediad gwych barhau gyda buddugoliaeth dros Birmingham yn St Andrew’s brynhawn Mawrth.
Sgoriodd Joe Mason toc cyn yr egwyl ac roedd honno’n ddigon i’r Cymry gipio’r pwyntiau i gyd yng nghanolbarth Lloegr.
Birmingham a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf ond Caerdydd a aeth ar y blaen yn erbyn llif y chwarae bedwar munud cyn yr egwyl diolch i gamgymeriad gan gôl-geidwad Lloegr, Jack Butland. Methodd y golwr ifanc ddal ergyd Craig Conway ac roedd Mason wrth law i sgorio unig gôl y gêm.
Parhau i fygwth a wnaeth y tîm cartref yn yr ail hanner hefyd ond daliodd yr Adar Gleision eu gafael i gofnodi pedwaredd buddugoliaeth allan o bedair gêm dros gyfnod y Nadolig a’r flwyddyn newydd.
Mae’r canlyniad hwn ynghyd â gêm gyfartal Hull yn Blackpool yn golygu fod mantais Caerdydd ar frig y Bencampwriaeth bellach yn saith pwynt.
.
Birmingham
Tîm: Butland, Caldwell, Davies, Spector, Packwood (Hancox 77’), Robinson, Morrison, Elliott (Jervis 70’), Redmond, Reilly (Gomis 32’), Hall
Cardiau Melyn: Robinson 50’, Jervis 84’
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Hudson, Turner, Connolly, Conway, Kim Bo-Kyung (Noone 67’), Gunnarsson, Mutch (Cowie 51’), Lappin, Mason (Gestede 70’), Bellamy
Gôl: Mason 41’
.
Torf: 17,493