Abertawe 2–2 Aston Villa
Roedd angen gôl hwyr Danny Graham ar Abertawe i gipio pwynt haeddianol yn erbyn Aston Villa yn Stadiwm Liberty brynhawn Mawrth.
Sgoriodd Aston Villa ddwy i fynd ar y blaen wedi i Wayne Routledge roi mantais gynnar i’r Elyrch. Ond achubodd Graham bwynt gyda gôl yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Bu bron i Routledge roi’r tîm cartref ar y blaen wedi dim ond tri munud ar ôl creu cyfle iddo’i hun gyda chyffyrddiad gwych, ond arbedodd Brad Guzan ei gynnig.
Ond llwyddodd Routledge bum munud yn ddiweddarach. Holltodd pas Pablo Hernandez amddiffyn Villa a churodd Routledge Guzan cyn sgorio i gôl wag.
Cafodd Pablo ei hunan gyfle da i ddyblu’r fantais wedi hynny ar ôl i Miguel Michu daro’r postyn ond yr ymwelwyr yn hytrach a gafodd y gôl nesaf. Daeth Christian Benteke o hyd i Andreas Weimann ac anelodd yntau ergyd gywir i’r gornel isaf, un yr un ar yr egwyl.
Cyfunodd Benteke a Weimann unwaith eto i roi Villa ar y blaen saith munud o’r diwedd. Ildiodd Nathan Dyer gic o’r smotyn gyda throsedd wyrion ar Weimann ac anfonodd Benteke Michele Vorm y ffordd anghywir o’r smotyn.
Ond roedd Abertawe yn haeddu pwynt o leiaf ac fe ddaeth hwnnw yn hwyr hwyr yn y gêm. Cafodd cynnig cyntaf Graham ei atal gan amddiffynnwr ond anelodd foli gadarn trwy fôr o chwaraewyr i gefn y rhwyd ar yr ail gynnig.
Mae’r pwynt yn ddigon i godi Abertawe dros Stoke i’r wythfed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair.
.
Abertawe
Tîm: Vorm, Chico, Williams, Rangel, Davies, Britton (Agustien 79’), Michu, Pablo, Routledge (Dyer 66’). De Guzman (Ki Sung-Yeung 62’), Graham
Goliau: Routledge 9’, Graham 90’
.
Aston Villa
Tîm: Guzan, Clark, Bennett, Stevens (Holman 68’), Lowton, Albrighton (Bowery 85’), Westwood (Bannan 81’), Delph, Herd, Benteke, Weimann
Goliau: Weimann 44’, Benteke [c.o.s.] 84’
Cardiau Melyn: Clark 40’, Weimann 41’, Delph 41’, Stevens 45’
.
Torf: 20,406