Telford 0–2 Wrecsam
Cododd Wrecsam i frig y Gyngres, dros dro o leiaf, gyda buddugoliaeth dros Telford yn Bucks Head brynhawn Mawrth.
Rhoddodd Danny Wright y Dreigiau ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i’r eilydd, Adrian Cieslewicz, sicrhau’r tri phwynt gyda’r ail bum munud o’r diwedd.
Daeth y gôl gyntaf hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf pan ddaeth Neil Ashton o hyd i Wright yn y cwrt cosbi a gwnaeth yntau’r gweddill.
Yr ymwelwyr a gafodd y gorau o’r cyfleoedd wedi hynny hefyd ond bu rhaid aros tan bum munud o’r diwedd i ddiogelu’r fuddugoliaeth. Croesodd Nick Rushton y bêl i’r canol a churodd Cieslewicz Ryan Young gyda pheniad taclus.
Mae’r canlyniad yn codi Wrecsam i frig tabl Uwch Gynghrair y Blue Square ond gall Grimsby a Chasnewydd neidio drostynt gyda phwyntiau yn hwyrach.
.
Telford
Tîm: Young, Salmon, Valentine, Preston, Hubbins (Rooney 79’), Rose, Trainer, St Aimie (Spray 61’), Leslie (Taylor 54’), Read, Brown
Melyn: Preston 38′
.
Wrecsam
Tîm: Mayebi, Ashton, Alfei, Riley, Westwood, Harris, Clarke, Hunt, Wright, Ormerod (Cieslewicz 56’), Rushton (Little 86’)
Goliau: Wright 24’, Cieslewicz 85’
.
Torf: 2,931