Tpmmy Bowe
Ar ôl derbyn llawdriniaeth ar ei benelin nid yw’n debygol y bydd asgellwr Iwerddon Tommy Bowe yn cymryd rhan ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad y tymor hwn.
Mae disgwyl i’r Gwyddel fod allan am bedair mis, gan anelu at ddychwelyd ar gyfer rowndiau olaf Cwpan Heineken, pe bai ei glwb Ulster yn llwyddo i gyrraedd y rowndiau olaf.
Dywedodd Ulster mewn datganiad bod y llawdriniaeth wedi bod yn llwyddiannus. Os y bydd Bowe yn dychwelyd a’r amser, byddai’n rhaid iddo brofi ei ffitrwydd mewn pum wythnos ar gyfer taith y Llewod.
Fe wnaeth Bowe chwarae ym mhob prawf ar daith y Llewod yn 2009 yn Ne Affrica. Wedi tirio 26 cais mewn 51 gêm i Iwerddon, mae Bowe wedi profi i fod yn asgellwr o safon uchel dros ben.
Mae ei absenoldeb wedi rhoi cyfle i Craig Gilroy i ddechrau i Ulster, a mwy na thebyg i Iwerddon.