Bradley Davies
Gêm fawr rygbi heno yw’r frwydr ddarbi rhwng y Gleision a’r Scarlets yng nghynghrair RaboDirect Pro 12.

Wedi ymgyrch siomedig yng nghwpan yr Heineken, mi fydd y ddau dîm yn ysu am fuddugoliaeth i anghofio am hunlle’r gystadleuaeth honno.

Mae Gleision yn croesawu’r clo Bradley Davies yn ôl sydd wedi gwella o’r ergyd a gafodd yn ystod gêm Cymru yn erbyn y Crysau Duon.

Hefyd mi fydd y rheng ôl Josh Turnbull yn dychwelyd i dîm y Scarlets wedi iddo wella o’r anaf i’w ben-glin a ddioddefodd yn ystod ei ymgyrch gyda Chymru yr Hydref hwn.

Tîm y Gleision

Olwyr – Jason Tovey, Alex Cuthbert, Gavin Evans, Dafydd Hewitt, Harry Robinson, Rhys Patchell a Lewis Jones.

Blaenwyr – Andries Preotrius (Capten), Sam Warburton, Josh Navidi, James Down, Bradley Davies, Scott Andrews, Marc Breeze a Taufa’ao Filise.

Eilyddion – Rhys Williams, Sam Hobbs, Benoit Bourrust, Macauley Cook, Robin Copeland, Alex Walker, Ceri Sweeney a Owen Williams.

Tîm y Sgarlets

Olwyr – Liam Williams, George North, Jonathan Davies (Capten), Scott Williams, Andy Fenby, Aled Thomas a Tavis Knoyle.

Blaenwyr – Phil John, Emyr Phillips, Samson Lee, George Earle, Johan Snyman, Josh Turnbull, Aaron Shingler a Kieran Murphy.

Eilyddion – Phil John, Emyr Phillips, Samson Lee, George Earle, Johan Snyman, Josh Turnbull, Aaron Shingler a Kieran Murphy.