Gweilch 33–12 Gleision
Cafodd y Gweilch fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn y Gleision yn y RaboDirect Pro12 ar y Liberty nos Wener.
Llwyr reolodd y tîm cartref yr hanner cyntaf a sicrhaodd cais James King fantais iddynt ar yr hanner. Roedd yr ymwelwyr o’r brifddinas fymryn yn well wedi’r egwyl ond ychwanegodd Richard Fussell a Morgan Allen ddau gais arall wrth i’r Gweilch ennill yn hawdd yn y diwedd.
Hanner Cyntaf
Dim ond un tîm oedd ynddi yn yr hanner cyntaf a gyda sgrym yr ymwelwyr yn gwegian fe giciodd Matthew Morgan y Gweilch dri phwynt ar y blaen wedi deg munud.
Aeth y tîm cartref ym mhellach ar y blaen ddau funud yn ddiweddarach pan groesodd y clo, King, yn dilyn meddiant glân o’r lein, 10-0 yn dilyn trosiad taclus Morgan o’r ystlys.
Methodd y maswr bach un cyfle i ymestyn y fantais honno hanner ffordd trwy’r hanner ond llwyddodd gyda chynnig arall yn fuan wedyn i roi ei dîm dri phwynt ar ddeg ar y blaen.
Sgoriodd Sweeney bwyntiau cyntaf y Gleision chwarter awr cyn yr egwyl cyn i’r ddau faswr gyfnewid cic gosb yr un eto cyn hanner amser, 16-6 i’r Gweilch wedi deugain munud.
Ail Hanner
Daeth ail gais y Gweilch yn fuan iawn yn yr ail hanner a hwn oedd cais mwyaf atyniadol y gêm, cic Ross Jones a chwrs Fussell yn arwain at gais da i’r cefnwr.
Er gwaethaf y cais hwnnw, roedd y Gleision yn llawer mwy cystadleuol yn yr ail gyfnod ac adlewyrchwyd hynny pan drosodd Rhys Patchell dri phwynt i gau’r bwlch gyda dros hanner awr ar ôl.
Yna, anfonwyd blaenasgellwr y Gweilch, Sam Lewis, i’r gell gosb. Ond er i Patchell drosi’r gic gosb ganlynol, methodd y Gleision â manteisio ym mhellach.
A’r Gweilch a gafodd y gair olaf wrth iddynt orffen y gêm yn gryf. Croesodd yr eilydd wythwr, Morgan Allen, yn rhy rhwydd o lawer o gefn y lein ac ychwanegodd Morgan y trosiad wrth iddi orffen yn 33-12 o blaid y tîm cartref.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Gweilch i’r pedwerydd safle yn nhabl y Pro12 tra mae’r Gleision yn aros yn seithfed.
Seren y Gêm
Mewnwr y Gweilch, Kahn Fotuali’i:
“I’r blaenwyr mae’r diolch, nhw sy’n rhoi’r bêl a’r platfform i ni’r olwyr ac rydyn ni’n falch iawn ohonynt.”
“Amddiffyn sy’n ennill gemau felly roeddem yn gwybod fod rhaid inni weithio’n galed.”
.
Gweilch
Ceisiau: James King 12’, Richard Fussell 42’, Morgan Allen 79’
Trosiadau: Matthew Morgan 13’, 43’, 79’
Ciciau Cosb: Matthew Morgan 10’, 24’, 37’
Cerdyn Melyn: Sam Lewis 51’
Gleision
Ciciau Cosb: Ceri Sweeney 26’, 39’, Rhys Patchell 47’, 51’
Cerdyn Melyn: Josh Navidi 76′