Dydd Sul fe fydd y Sgarlets yn croesawu Ulster i Lanelli.

Yn dychwelyd i ranbarth y gorllwein, wedi iddyn nhw gael eu rhyddhau o’u dyletswyddau rhyngwladol, mae Deacon Manu, Tomas Vallejos a Kirby Myhill.

Chew phwynt yn unig sy’n gwahanu’r ddau dîm, a bydd y Sgarlets am gau’r bwlch rhyngddyn nhw ag Ulster sydd yn eistedd ar frig y Gynghrair Geltaidd.

Bydd y gêm yn fyw ar S4C am bedwar y p’nawn.

Tîm y Sgarlets

Olwyr – Dan Newton, Kristian Phillips, Gareth Maule, Gareth Owen, Andy Fenby, Aled Thomas, Gareth Davies.

Blaenwyr – Phil John, Emyr Phillips, Jacobie Adriaanse, Johan Snyman, Richard Kelly, George Earle, Johnathan Edwards (Capten), 8 Kieran Murphy.

Eilyddion – Kirby Myhill, Shaun Hopkins, Deacon Manu, Tomas Vallejos, Craig Price, Aled Davies, Adam Warren, Nick Reynolds.