Bradley Davies
Mae bachwr Seland Newydd wedi cael ei wahardd am bum wythnos am daro ail-reng Cymru Bradley Davies yn anymwybodol.

Taflodd Andrew Hore yr ergyd yn ail funud y gêm yng Nghaerdydd, ond ni welodd y swyddogion y digwyddiad a safodd y bachwr ar y cae am weddill y gêm.

Bydd Andrew Hore yn colli gêm Seland Newydd ddydd Sadwrn yn erbyn Lloegr, sy’n dynodi diwedd y tymor i chwaraewyr Seland Newydd, a gêm gyntaf ei glwb yr Highlanders yn y tymor newydd ar Chwefror 22

Cafodd yr ergyd ei hystyried yn drosedd ddifrifol yn ôl mesurau disgyblu’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol, ac felly’n haeddu wyth wythnos o waharddiad.

Ond dywedodd y swyddog disgyblu’r Athro Lorne Crerar fod y bachwr 34 oed wedi dangos edifeirwch a bod ganddo record disgyblaeth glân a chafodd y gwaharddiad ei gwtogi i bum wythnos.

Aaron Jarvis

Mae tymor y prop pen tynn wedi dod i ben ar ôl iddo anafu ei ben-glin yn nechrau’r gêm yn erbyn Seland Newydd.

Bydd absenoldeb y prop 26 oed yn golled i Gymru ac i’r Gweilch gan fod Adam Jones hefyd allan gydag anaf i’w ben-glin tan y flwyddyn newydd.