Aaron Jarvis
Mae Aaron Jarvis a chwaraeodd ei gêm gyntaf dros dîm rygbi Cymru ddoe wedi dweud ei fod wedi mwynhau’r profiad, ond ei fod yn teimlo’n drist iawn ynglŷn â’r canlyniad. Collodd y Cymry i’r Ariannin o 26 pwynt i 12.

Roedd Jarvis wedi cymryd lle Adam Jones sydd wedi ei anafu.

“Mae wedi bod yn brofiad gwych,” meddai. “Mae’n rhaid i mi barhau i weithio’n galed a dwi’n gobeithio y byddai’n parhau i fod yn rhan o’r tîm.”

“Roedd y teimlad ar hanner amser yn bositif. Mi roedden ni’n cadw’r bêl ac yn ennill ciciau cosb ond, yn anffodus, roedd yr ail hanner yn stori wahanol,” ychwanegodd Jarvis sy’n chwarae i’r Gweilch.

Mi gafodd Aaron Jarvis ei eni yng Nghaerwysg ond mae ei nain yn dod o Ferthyr Tudful.

Samoa fydd gwrthwynebwyr Cymru yn y gêm brawf nesaf a hynny nos Wener nesaf.