Mae’r bocsiwr Nathan Cleverly wedi llwyddo i ddal gafael ar ei deitl fel Pencampwr pwysau godrwm-ysgafn y byd ar ôl ennill ei ornest yn erbyn yr Americanwr Shawn Hawk yn Los Angeles.

Dyma’r tro cyntaf i’r Cymro ymladd yn yr Unol Daleithiau.

Fe loriodd Hawk ddwywaith yn y seithfed rownd ac fe ddaethpwyd â’r ornest i ben yn y rownd ganlynol.

Roedd Syr Tom Jones  a’r actor Mickey Rourke wedi dod draw i gefnogi Cleverly, a dywedodd fod hynny wedi ei ysbrydoli.

“Roedd yn anrhydedd cael y ddau yn rhan o fy nhîm i,” meddai. “Mae mam wedi gwirioni efo Tom Hones ac mae wrth ei bodd.”

Dim ond ar y funud olaf y cafodd Cleverly wybod pwy fyddai ei wrthwynebydd yn yr ornest ond dywedodd ei fod wedi mwynhau’r profiad a’i fod yn teimlo ei fod wedi gwneud y gorau o’r cyfle i ymladd yn yr Unol Daleithiau.