Jamie Roberts
Mae cyn-fewnwr Cymru Brynmor Williams wedi dweud ei fod yn deall penderfyniad Jamie Roberts i adael y Gleision, yn dilyn y newydd ei fod am ymuno â Racing Metro.
Yn ôl y Gleision, roedden nhw wedi gwneud cynnig ariannol i Roberts a fyddai wedi golygu mai ef oedd yn cael y cyflog mwya’ o’r holl chwaraewyr yng Nghymru, efallai yn y Deyrnas Unedig.
Ond mae’n ymddangos y bydd Roberts yn gadael am Ffrainc gan ddilyn llu o chwaraewyr rhyngwladol eraill o Gymru gan gynnwys Gethin Jenkins, Mike Phillips, Luke Charteris a James Hook.
“Wrth gwrs mae’n siomedig iawn ond mae’n rhaid deall sefyllfa ariannol y chwaraewyr yma a sylweddoli pa mor fyr yw eu gyrfaoedd nhw,” meddai Brynmor Williams wrth Golwg360.
“Mae gan Jamie’r cyfle i fyw ym Mharis, chwarae yn Ffrainc a manteisio ar ei enw da.”
Y llif yn parhau
Ond rhybuddiodd cadeirydd y Gleision y bydd rhaid i’r Undeb Rygbi roi arian i atal llif y sêr o Gymru i wledydd eraill.
“Fe fydd y llif o chwaraewyr allan o Gymru’n parhau os na ddaw rhagor o arian gan y corff llywodraethu,” meddai Peter Thomas. “Rhaid i’r corff llywodraethu gymryd llawer rhagor o gyfrifoldeb.
“Fel busnes, does gyda ni ddim o’r adnoddau i gystadlu gyda’r cynigion y mae Jamie wedi eu derbyn.”
Ond mae Brynmor Williams – tad i un o fewnwyr presennol Cymru, Lloyd Williams – yn meddwl nad oes bai ar chwaraewyr fel Jamie Roberts am adael i chwarae dramor.
“Ydi, mae hyn yn broblem, ond gyrfa fer iawn sydd gan chwaraewyr rygbi proffesiynol a does dim sicrwydd ariannol gan y rhan fwyaf ohonyn nhw,” meddai.
“Dyw’r arian y maen nhw’n mynd i’w ennill yn ystod eu gyrfa byth yn mynd i fod yn ddigon i bara am y deugain mlynedd sydd i ddod wedyn!
“Mae market value rhywun fel Jamie Roberts yn uchel iawn, ac mae’n haeddu’r cyfle,” ychwanegodd.
Hyd yn hyn, mae’r canolwr, sydd yn astudio meddygaeth yn rhan-amser ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi chwarae 81 o weithiau i’r Gleision ac wedi ennill 44 o gapiau i Gymru. Yn 2009, cafodd ei ddewis yn chwaraewr gorau taith y Llewod i Dde Affrica.
Dyfodol rhyngwladol
Yn dilyn cyhoeddi’r tîm a fydd yn wynebu’r Ariannin ddydd Sadwrn, rhybuddiodd hyfforddwr dros dro Cymru Rob Howley, fod penderfyniad chwaraewyr i symud dramor yn mynd i effeithio ar eu dyfodol gyda’r tîm cenedlaethol.
Ni fydd y mewnwr Mike Phillips, sy’n chwarae i Bayonne, yn dechrau’r gêm ddydd Sadwrn, gyda’r Sgarlet Tavis Knoyle yn cymryd ei le.
Roedd y penderfyniad, meddai Rob Howley, yn rhannol oherwydd nad oedd Mike Phillips ar gael i’r camp ffitrwydd yng Ngwlad Pwyl oherwydd ei ymrwymiadau i’r tîm o Ffrainc.