Joe Ledley
Roedd dau Gymro yn rhan o dîm Celtic a gurodd Barcelona neithiwr o 2-1 ac, yn ôl rheolwr y clwb o Glasgow, maen nhw wedi ennill eu lle yn y llyfrau hanes.
Roedd cyn chwaraewyr Caerdydd, Adam Matthews a Joe Ledley, yn yr 11 a ddechreuodd y gêm yn erbyn y Catalaniaid sy’n cael eu hystyried yn gyffredinol yn dîm gorau’r byd.
Fe ddaeth y fuddugoliaeth ddiwrnod ar ôl i Celtic ddathlu pen-blwydd 125 sefydlu’r clwb.
Roedd Matthews yn chwarae yn yr amddiffyn a Ledley, fel arfer, yng nghanol y cae.
Dwy gôl yn ddigon
Roedd dwy gôl yn ddigon i guro Barcelona, wrth i’r rheiny fygwth gyda gôl yn y munudau ola’ gan chwaraewr gorau’r byd, Lionel Messi.
Victor Wanyama a gafodd y gynta’ i Celtic ac fe ddaeth yr ail gan yr eilydd 18 oed, Tony Watt, ar ôl camgymeriad gan Xavi.
Yn ôl rheolwr Celtic, Neil Lennon, roedd hynny’n dangos y gwahaniaeth rhwng y ddau glwb – tra oedd Barcelona’n dod â chwaraewr fel Cesc Fabregas oddi ar y faint, roedd yntau’n galw ar lanc a gostiodd £50,000 o Airdrie.
Yn y llyfrau hanes
“Alla i ddim canmol gormod ar berfformiad y chwaraewyr heno,” meddai Lennon yn union wedi’r gêm. “Fe fyddan nhw’n cael eu cofnodi yn y llyfrau hanes y clwb am fod yn rhan o’r tîm a gurodd dîm gorau’r byd, siŵr o fod.”
Mae’r fuddugoliaeth yn golygu y gallai Celtic fynd trwodd i 16 ola’ Cynghrair y Pencampwyr. Nhw oedd y tîm cynta’ o wledydd Prydain i ennill y brif gystadleuaeth Ewropeaidd yn 1967.