Mae gan y Gweilch naw chwaraewr yng Ngwlad Pwyl yn paratoi ar gyfer y gemau rhyngwladol mis Hydref.

A hwythau wedi colli llawer o’u chwaraewyr allweddol felly, bydd yr ornest yn erbyn Leinster ddydd Sul yn gyfle i chwaraewyr cyffrous ifanc fel Eli Walker a Mathew Morgan ddangos eu doniau ar y cae.

Fe fydd Matthew Dwyer yn cychwyn am y tro cyntaf i’r Gweilch a Lloyd Peers yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yng nghynghrair RaboDirect Pro 12.

Ni fydd Adam Jones, Scott Baldwin, Tom Smith na Tom Habberfield yn chwarae oherwydd anafiadau.

Tîm y Gweilch –

Olwyr – Richard Fussel, Hanno Dirksen, Tom Isaacs, Andrew Bishop, Eli Walker, Matthew Morgan a Rhys Webb.

Blaenwyr – Duncan Jones, Matthew Dwyer, Joe Rees, Lloyd Peers, Jonathan Thomas (Capten), George Stowers, Sam Lewis a Joe Bearman.

Eilyddion – Arthur Ellis, Marc Thomas, Daniel Suter, James King, Morgan Allen, Kahn Fotuali’i, Jonathan Spratt a Ross Jones.