Rob Howley
Mae Carfan 35 dyn Cymru wedi bod yn ymarfer yn ddwys yn Spala, Gwlad Pwyl, yr wythnos hon.

Bydd Cyfres yr Hydref yn cychwyn gyda gêm yn erbyn Yr Ariannin wythnos i heddiw.

Fe fydd Cymru wedyn yn mynd ymlaen i wynebu Samoa, Seland Newydd ac Awstralia ar benwythnosau olynol yn Stadiwm y Mileniwm.

Cred y rheolwr dros dro bod y gwersyll yn Spala wedi bod yn fuddiol ac yn llwyddiant unwaith yn rhagor.

‘‘Fe fydd y tîm yn elwa yn gorfforol ac yn feddyliol o Spala,” meddai Robert Howley.

“Mae’r chwaraewyr yn teimlo’n ffres yn feddyliol ac wedi gwella o nifer amrywiol o anfiadau a ddioddefwyd yn yr wythnosau cynt.

‘‘Mae Spala yn gyfleuster gwych ac unigryw.  Mae chwaraewyr wedi bod wrth eu boddau yn treulio amser gyda’i gilydd ac wedi mwynhau’r profiad.  Mae ein sesiynau yn fyr ond yn ddyws, sydd yn ein galluogi ni i roi’r chwaraewyr o dan bwysau wrth ymosod ac amddiffyn.  Ond wrth i ni weithio’n galed ar – ac oddi ar – y cae, mae’n bwysig i ni weithio’n ddiogel i gynnal yr ymarferion caled.”