Yn eistedd ar frig tabl y Bencampwriaeth, wedi chwipio Burnley 4-0 y penwythnos diwethaf, teg dweud bod yr Adar Gleision yn hedfan.

Ni fydd Craig Bellamy nac ychwaith Tommie Smith yn chwarae oherwydd anafiadau.

Ond fel arall mae’n debygol na fydd llawer o newidiadau yn nhîm Malky Mackay.

Mae chwaraewr canol cae Jordon Mutch bron â gwella’n gyfan gwbl o’i anaf, ac er nad yw’n chwarae yfory, mae disgwyl iddo ddychwelyd yn ystod yr wythnosau nesaf.