Fe fydd y Gleision yn gobeithio taro nôl heno yn erbyn Munster, ar ôl colli’n drwm y penwythnos diwethaf i Leinster.
Ond maen nhw’n wynebu talcen caled gydag wyth chwaraewr allan o’u carfan oherwydd y gemau rhyngwladol yn yr Hydref.
Mae Phil Davies rheolwr y Gleision yn dweud mai dyma’r cyfle euraidd i chwaraewyr fachu’r cyfle i greu argraff a sicrhau safleoedd parhaol yn nhîm y Gleision.
Mae 11 o newidiadau i’r tîm a gollodd i Leinster yn Nulyn.
Tîm y Gleision:
Olwyr – Dan Fish, Tom Williams, Gavin Evans, Dafydd Hewitt, Tom James, Jason Tovey a Lewis Jones.
Blaenwyr – Campese Ma’afu, Rhys Williams, Taufa’ao Filise, Lou Reed, James Down, Robin Copeland, Josh Navidi a Andries Pretorius (Capten).
Eilyddion – Andi Kyriacou, Sam Hobbs, Ryan Harford, Macauley Cook, Luke Hamilton, Rob Lewis, Ceri Sweeney, Owen Williams.