l
Michael Laudrup (llun cyhoeddusrwydd)
Gêm Gynghrair yn erbyn Southampton yw’r flaenoriaeth fawr i Abertawe yn y cyfnod nesa’, meddai eu rheolwr.

Yn ôl Michael Laudrup, mae honno’n bwysicach na gêm yn erbyn arweinwyr yr Uwch Gynghrair, Chelsea, dros y Sul.

Ac mae’r Uwch Gynghrair yn bwysicach yn y tymor byr na’r gêm yn rownd wyth ola’ Cwpan y Cynghrair, meddai’r Daniad.

Pe bai’n rhaid dewis rhwng curo Chelsea gartre’ yr wythnos hon neu guro Southampton y penwythnos wedyn – yr ail fyddai dewis Laudrup.

Southampton ‘yn bwysicach’

“Fe hoffwn i ennill y ddwy wrth gwrs,” meddai. “Ond petai rhywun yn dweud, ‘Michael, rhaid i ti ddewis’, fydden i’n dweud Southampton – ddoe, heddiw a fory. Mae hi’n llawer pwysicach.”

Southampton , a gafodd ddyrchafiad y llynedd ac sy’n cael eu rheoli gan gyn chwaraewr Dinas Bangor, Nigel Adkins, yw un o’r timau ar waelod yr Uwch Gynghrair a’r math o dîm y byddai disgwyl i’r Elyrch eu curo.

Fe alwodd Laudrup hefyd ar i’r chwaraewyr ganolbwyntio ar y gêmau nesaf tra gallai’r cefnogwyr freuddwydio am gêm Cwpan y Cynghrair yn erbyn Middlesborough.