Ryan Giggs (Gordon Flood CCA 2.0)
Roedd yna goliau i ddwy seren Gymreig yng Nghwpan y Cynghrair neithiwr – ond fe gollodd y ddau yn y diwedd.

Fe gafodd Ryan Giggs ei ddwy gôl gynta’r tymor yma yn erbyn Chelsea, ond fe gollodd Manchester United o 4-5 ar ôl amser ychwanegol yn Stamford Bridge.

Roedd gan reolwr Man Utd, Alex Ferguson, ganmoliaeth arbennig i’r chwaraewr canol cae a gymerodd ran am y 90 munud a’r hanner awr ychwanegol.

“Yn Ryan Giggs, dw i’n meddwl ein bod wedi gweld chwaraewr o statws anhygoel yn chwarae 120 o funudau ac yntau’n 39 oed y mis nesa’ – mae’n glod iddo.

“Mae’n esiampl i bob chwaraewr ar y cae, hyd yn oed i chwaraewyr Chelsea.”

Roedd yna gôl hefyd i Gareth Bale i Tottenham Hotspur, ond fe wnaethon nhwthau golli o 1-2 yn Norwich gyda’r Canaries yn cael dwy gôl yn y munudau ola’.