Michael Laudrup
Mae Abertawe’n anelu am rownd derfynol Cwpan y Cynghrair ar ôl curo Lerpwl a chyrraedd rownd yr wyth ola’ am y tro cynta’ erioed.

Roedd y fuddugoliaeth yn “gamp fawr”, meddai’r rheolwr Michael Laudrup ac fe gyfaddefodd ei raglfenydd, rheolwr Lerpwl, Brendan Rodgers, mai Abertawe oedd y tîm gorau.

Fe gafodd cyn-arwr Abertawe wres ei draed wrth i’r Elyrch fynd ar y blaen yn yr hanner cynta’ a dal eu tir ar ôl i Rodgers ddod â rhai o’i sêr mwya’ i’r cae.

Dyma’r tro cynta’ i Abertawe ennill yn Anfield ers tua chwarter canrif a dyma’r tro cynta’ iddyn nhw fynd cyn belled yn nhrydedd cystadleuaeth bêl-droed Lloegr.

‘Camp fawr’

Yr amddiffynnwr, Chico Flores, a gafodd y gynta’ ond roedd yna bryder hefyd wrth iddo orfod adael y cae’n ddiweddarach ar ôl tynnu cyhyr.

Fe ddaeth yr ail gan Nathan Dyer, cyn i Luis Suarez gael un i Lerpwl, ond fe orffennwyd y cyfan yn y munudau ola’ gyda gôl gan Jonathan de Guzman.

“Mae hon yn gamp fawr i’r clwb a’r cefnogwyr,” meddai Michael Laudrup wedyn. “Dw i’n hoffi’r cwpan yma – dyma’r ffordd sicra’ o gyrraedd rownd derfynol ac ennill rhywbeth.”