Lerpwl 1-3 Abertawe
Mae Abertawe yn rownd go gynderfynol Cwpan y Gynghrair ar ôl curo Lerpwl yn Anfield nos Fercher.
Rhoddodd gôl Chico Flores fantais i’r Elyrch ar hanner amser a dyblwyd y fantais honno hanner ffordd trwy’r ail gyfnod pan rwydodd Nathan Dyer. Fe dynnodd Luis Suarez un yn ôl i Lerpwl wedi hynny ond wrth i’r tîm cartref chwilio am ail fe seliodd Jonathan de Guzman y fuddugoliaeth i Abertawe.
Hwn oedd y tro cyntaf i Abertawe wynebu eu cyn reolwr, Brendan Rodgers, ers iddo adael y Liberty yn yr haf ac fe ddechreuon nhw’n dda wrth i De Guzman a Ki Sung-Yeung ddod yn agos.
Ac roedd yr Elyrch ar y blaen ar yr egwyl diolch i beniad cywir Chico o gic gornel de Guzman.
Dechreuodd Lerpwl yr ail hanner yn well a tharodd Steven Gerrard y postyn gyda chynnig o bell. Ond wrth i Lerpwl bwyso fe wrthymosododd Abertawe a chyfunodd Pablo Hernandez a Dyer i rwydo ail yr ymwelwyr.
Peniodd Suarez gic rydd Gerrard heibio i Gerhard Tremmel i roi gobaith i Lerpwl gyda chwarter awr yn weddill, ond wrth i Lerpwl bwyso eto, fe fanteisiodd Abertawe yn y pen arall. De Guzman oedd y sgoriwr y tro hwn wedi i Miguel Michu ddod o hyd iddo yn y cwrt chwech.
Buddugoliaeth gofiadwy i’r Elyrch felly a gobaith realistig yn awr o efelychu camp Caerdydd llynedd a chyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth hon.
Ymateb Brendan
Er ei fod yn siomedig â pherfformiad ei dîm ei hun, roedd Rodgers yn llawn clod i’w gyn glwb:
“Yn syml, fe wnaeth y tîm gorau ennill… Roedden ni’n rhy araf yn yr hanner cyntaf ac roedd Abertawe yn fwy bywiog ac yn haeddu’r fuddugoliaeth. Llongyfarchiadau iddyn nhw a phob lwc iddynt yn y rownd nesaf.”
.
Lerpwl
Tîm: Jones, Coates, Carragher, Robinson, Cole (Gerrard 46’), Henderson, Downing, Allen, Shelvey, Assaidi (Sterling 65’), Yesil (Suarez 46’)
Gôl: Suarez 76’
Cerdyn Melyn: Carragher 45’
Abertawe
Tîm: Tremmel, Chico (Monk 58’), Williams, Tiendalli, Britton, Michu, Pablo (Routledge 75’), Dyer, De Guzman, Ki Sung-Yeung, Richards
Goliau: Chico 34’, Dyer 72’, De Guzman 90’
Torf: 37,521