Mae pryderon am ffitrwydd Ryan Jones ar gyfer gêmau’r hydref ar ôl iddo gael ei anfon yn ôl o Wlad Pwyl am driniaeth.

Roedd chwaraewr rheng ôl y Gweilch yn diodde’ o broblem gyda’i ysgwydd cyn mynd i’r gwersyll ymarfer yn nwyrain Ewrop.

Yn awr, mae’r tîm hyfforddi wedi penderfynu y bydd yn cael triniaeth mwy addas yn ôl yng Nghymru.

Ond mewn datganiad heddiw, mae’r Undeb Rygbi wedi pwysleisio bod Ryan Jones yn parhau’n aelod llawn o’r garfan o 35 i wynebu’r Ariannin, Samoa, Seland Newydd ac Awstralia.

“Fe ddaw’r effaith ar ddewis y tîm yn amlwg ar ôl cynnal yr ymchwiliadau priodol,” medden nhw.