Brendan Rodgers
Fe fydd cefnogwyr Abertawe yn maddau i Brendan Rodgers ac yn dod i werthfawrogi ei waith.
Dyna farn olynydd Rodgers yn rheolwr ar glwb pêl-droed yr Elyrch cyn iddyn nhw deithio i Anfield heno i wynebu Lerpwl.
Mae yna chwerwder ymhlith rhai o gefnogwyr Abertawe ar ôl i Rodgers adael y clwb am Lerpwl a mynd ag aelodau o staff ac un o’r chwaraewyr gorau – Joe Allen – gydag e.
Mae rhai’n disgwyl y bydd Rodgers yn cael amser caled gan rai o’r dorf sy’n teithio o orllewin Cymru i Lannau Mersi.
Ond, yn ôl y rheolwr newydd, Michael Laudrup, fe fyddan nhw’n dod i sylweddoli cymaint a wnaeth Rodgers tros y clwb, gan eu codi o’r Bencampwriaeth i safle tua chanol yr Uwch Gynghrair.
“R’yn ni i gyd yn gwybod bod pêl-droed yn gêm o emosiynau cryf,” meddai Michael Laudrup mewn cyfweliad radio. “Doedd rhai ddim yn hapus ei fod wedi gadael ond, wrth i amser fynd heibio, fe fydd pobol yn cydnabod beth wnaeth e.”
Dim Allen
Fydd Allen ddim yn nhîm Lerpwl ar gyfer y gêm yng Nghwpan y Gynghrair ac mae Rodgers yn debyg o ddefnyddio nifer o chwaraewyr ymylol.
Mae yntau wedi codi baner heddwch trwy bwysleisio pa mor agos yw Abertawe at ei galon.
“Mae Abertawe wedi bod yn wych i fi ac, wrth gwrs, ar ôl Lerpwl, dyna’r tîm a’r bobol yr ydw i eisiau eu gweld yn llwyddo,” meddai.
- Fydd y gol geidwad Michael Vorm ddim ar gael i Abertawe – mae allan am tua deufis – ac mae yna amheuon hefyd am Wayne Routledge ac Ashley Williams.