Leinster 59–22 Gleision


Cafodd y Gleision gweir go iawn yn y RaboDirect Pro12 gan Leinster ar yr RDS nos Sadwrn.

Sgoriodd y Gwyddelod chwe chais yn yr hanner cyntaf ac er mai tri chais yr un oedd hi wedi’r egwyl, wnaeth hynny ddim llawer i leddfu embaras y rhanbarth o Gymru.

Hanner Cyntaf

Doedd pethau ddim yn argoeli’n dda iawn i’r Gleision pan sgoriodd Richardt Strauss y cais agoriadol wedi dim ond pedwar munud yn dilyn bylchiad gwreiddiol David Kearney.

Dilynodd yr ail gais bedwar munud yn ddiweddarach pan diriodd Ian Madigan ar ôl derbyn pas un llaw dda gan Fergus McFadden.

Doedd dim golwg o dacl gan y Gleision ac roedd hi’n rhy rhwydd o lawer i Jamie Heaslip sgorio’r trydydd wedi deunaw munud. Ac aeth pethau o ddrwg i waeth ychydig funudau’n ddiweddarach pan ddaeth pas hir Jonathan Sexton o hyd i Kearney ar yr asgell i sgorio’r pedwerydd.

Pwynt bonws i’r tîm cartref wedi llai na hanner awr felly ac i wneud pethau’n waeth anfonwyd prop y Gleision, Scott Andrews, i’r gell gosb.

Tra yr oedd yno, ychwanegodd Heaslip ei ail ef a phumed ei dîm pan blymiodd drosodd o fôn sgarmes symudol, a hyrddiodd Cian Healy drosodd yn benderfynol o ddeg llath am y chweched.

Fe wnaeth Leigh Halfpenny gicio tri phwynt i’r Gleision ond doedd dim dianc oddi wrth y ffaith fod y perfformiad hanner cyntaf yn un erchyll.

Ail Hanner

Doedd dim arwydd fod Leinster am arafu ar ddechrau’r ail gyfnod chwaith wrth i Jordi Murphy groesi am y seithfed wedi dim ond dau funud.

Ond fe wnaeth pethau dawelu wedi hynny a llwyddodd y Gleision i daro’n ôl gyda chais taclus i Alex Cuthbert.

Ychwanegodd yr eilydd, Damien Brown, wythfed cais y Gwyddelod cyn i Leigh Halfpenny ymateb gydag ail y Gleision yn dilyn pas hir dda gan Jason Tovey.

Roedd y Gleision hyd yn oed yn synhwyro pwynt bonws wedi i Tom James sgorio trydydd cais i’r ymwelwyr ddeg munud o’r diwedd ond Leinster a gafodd y gair olaf, ac yn addas felly. Disgynnodd un o giciau lletraws nodweddiadol Sexton i ddwylo Fionn Carr ar yr asgell a thiriodd yntau er gwaethaf ymdrech lew Halfpenny i’w atal.

Methodd Sexton a throsi’r cais olaf ond gorffennodd y gêm gyda saith allan o naw wrth i’w dîm ennill y gêm o 59 -22.

Ymateb

Phil Davies, cyfarwyddwr rygbi’r Gleision:

“Fe all pawb weld nad oedd, yr hanner cyntaf yn enwedig, ddigon da. Maen nhw’n dîm da ond fe roesom ni ormod o geisiau hawdd iddyn nhw.”

“19 yr un oedd hi yn yr ail hanner felly roedd hi’n fwy o gêm o leiaf, doedd yr hanner cyntaf ddim yn gêm, ddim yn gystadleuaeth.”

Mae’r canlyniad yn gadael y Gleision yn seithfed yn nhabl y Pro12.

.

Leinster

Ceisiau: Richardt Stauss 4’, Ian Madigan 8’, Jamie Heaslip 18’, 31’, David Kearney 26’, Cian Healy 36’, Jordi Murphy 42’, Damien Brown 54’, Fionn Carr 80’

Trosiadau: Jonathan Sexton 6’, 9’, 21’, 28’, 37’, 43’, 55’

Gleision

Ceisiau: Alex Cuthbert 50’, Leigh Halfpenny 64’, Tom James 69’

Trosiadau: Leigh Halfpenny 66’, 70’

Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 12’