Man City 1–0 Abertawe


Colli fu hanes Abertawe yn erbyn Man City yn Stadiwm Etihad nos Sadwrn.

Sgoriodd Carlos Tevez unig gôl y gêm ar yr awr, ac er nad oedd hwn yn berfformiad gwych gan y pencampwyr, roedd ergyd yr Archentwr yn ymdrech a oedd yn haeddu ennill unrhyw gêm.

Ychydig o gyfleoedd a gafwyd mewn hanner cyntaf digon distaw. Gwnaeth Michel Vorm ddau arbediad cyfforddus i atal Tevez a chafodd Joe Hart ei weithio ar ddau achlysur yn y pen arall gan Miguel Michu.

Daeth unig gôl y gêm toc wedi’r awr ac roedd hi’n dipyn o gôl hefyd. Derbyniodd Tevez y bêl gan Gael Clichy cyn curo Vorm o ddeg llath ar hugain.

Roedd newyddion gwaeth fyth i Abertawe a Vorm ychydig funudau yn ddiweddarach pan gafodd y gôl-geidwad ei gario oddi ar y cae gydag anaf.

Gerhard Tremmel a chwaraeodd yr hanner awr olaf rhwng y pyst i’r Elyrch ac er na ildiodd ef, methodd yr ymwelwyr a sgorio yn y pen arall hefyd wrth iddi orffen yn 1-0 o blaid Man City.

Mae Abertawe yn aros yn ddegfed er gwaethaf y golled ond gall Lerpwl a Newcastle godi drostynt gyda buddugoliaethau ddydd Sul.

Barn Laudrup

“Weithiau, pan ry’ chi’n chwarae’r pencampwyr oddi cartref ac yn colli o gôl i ddim rydych chi’n meddwl, mae hyn yn iawn, doedd neb yn disgwyl dim pryn bynnag. Ond ro’n i wirioneddol yn teimlo heddiw ein bod ni’n haeddu mwy.”

.

Man City

Tîm: Hart, Richards, (K. Toure 81’), Kompany, Kolarov (Balotelli 46’), Clichy, Nastasic, Nasri, Barry, Y. Toure, Aguero (Lescott 90’), Tevez

Gôl: Tevez 61’

Cerdyn Melyn: Richards 39’

Abertawe

Tîm: Vorm (Tremmel 64’), Chico, Williams, Rangel, Davies, Britton (Graham 72’), Michu, Pablo (Dyer 77’), Routledge, De Guzman, Ki Sung-Yeung

Cardiau Melyn: Rangel 17’, Dyer 85’

Torf: 46,801