Llanelli 0–1 Port Talbot


Sgoriodd Daniel Thomas gôl hwyr wrth i Bort Talbot guro Llanelli yng ngêm fyw Sgorio ar Stebonheath brynhawn Sadwrn.

Cafodd y ddau dîm ddigon o gyfleoedd yn yr ail hanner yn dilyn hanner cyntaf digon distaw ond parhau yn ddi sgôr wnaeth hi tan un munud o’r diwedd pan rwydodd Thomas unig gôl y gêm.

Llanelli a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf a bu rhaid i gôl-geidwad yr ymwelwyr, David Burnett fod yn effro i atal Luke Bowen wedi chwarter awr.

Cafodd Bowen gyfle euraidd o’r smotyn hefyd yn dilyn gwthiad Cortes Belle ar Martin Rose ond llusgodd y blaenwr ei gic o’r smotyn heibio’r postyn.

Fe darodd Rose y postyn hefyd gydag ymdrech o ongl dynn yn dilyn gwaith da i ennill y bêl ond parhau yn ddi sgôr a wnaeth hi ar hanner amser.

Y tîm cartref a gafodd y gorau o’r cyfleoedd ar ddechrau’r ail hanner hefyd. Gwnaeth Burnett yn dda i atal peniad Chris Venables a daeth Bowen yn hynod agos gyda foli gelfydd o ongl dynn.

Yn y pen arall daeth Matt Crowell yn agos gyda pheniad o ugain llath cyn i Burnett arbed cynigion o bellter gan Ashley Evans a Geoff Kellaway.

Bu bron i Jeff White ei chipio i’r ymwelwyr ddeg munud o’r diwedd a chafodd Rose a’r eilydd, Craig Moses, yn agos i’r tîm cartref hefyd.

Yna, gyda 89 munud ar y cloc fe ddaeth unig gôl y gêm. Daeth pas wych Jake Parry o hyd i White yn y cwrt cosbi, llwyddodd yntau i droi ac ergydio ac allai Morris yn y gôl ddim ond gwyro’r ergyd i lwybr Daniel Thomas. Anelodd yntau hi i do’r rhwyd i ennill y gêm yn ddramatig i’r Gŵyr Dur.

Ymateb

Roedd rheolwr Port Talbot, Mark Jones, yn hapus iawn gyda’i dîm ar ddiwedd y gêm, yn enwedig felly’r amddiffyn:

“Fe wnaethom ni newid ein siâp i 3-5-2 heddiw gan ein bod yn gwybod fod gan Lanelli ddau ymosodwr da yn Rose a Bowen. A ro’n i’n meddwl fod ein tri amddiffynnwr canol ni, Green, Tez [Belle] a Bloom yn arbennig, ac felly hefyd y gôl-geidwad, David Burnett, a oedd yn chwarae ei gêm gyntaf o’r tymor.”

Mae hi’n agos iawn yng nghanol tabl yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd ac mae’r canlyniad hwn yn golygu fod Port Talbot yn llamu i’r pumed safle gyda Llanelli yn llithro i wythfed.

.

Llanelli

Tîm: Morris, Thomas, Grist, Venables, Evans, Surman, Corbisiero, Rose, L. Bowen, Kellaway (Moses 82’), Jenkins (J. Bowen 63’)

Melyn: Jenkins 22’

Port Talbot

Tîm: Burnett, Sheehan, Blain, Holland (Harling 75’), Bloom, Green, Wright (Thomas 59′), Crowell (Parry 75′), White, Belle, John

Gôl: Thomas 89’

Melyn: Belle 20’, John 85’

Torf: 158