Casnewydd 2–3 Woking


Collodd Casnewydd am y tro cyntaf ar Rodney Parade yn Uwch Gynghrair y Blue Square brynhawn Sadwrn.

Woking oedd yr ymwelwyr i dde Cymru a methodd tîm Justin Edinburgh ag adfer yn llawn ar ôl ildio dwy gôl yn y chwarter awr agoriadol.

Agorodd Kevin Betsy’r sgorio i’r ymwelwyr wedi dim ond chwe munud yn dilyn amddiffyn blêr gan y tîm cartref.

Ond os mai amddiffyn Casnewydd oedd yn bennaf gyfrifol am gôl gyntaf Betsy, rhaid rhoi clod i waith da’r ymosodwr am yr ail wedi chwarter awr. Gwnaeth yn dda i greu lle yn y cwrt cosbi cyn ergydio heibio i Lee Pidgeley yn y gôl i Gasnewydd.

Tarodd Danny Crow y trawst wedi hynny wrth i’r tîm cartref ddechrau dod fwyfwy i’r gêm, a doedd fawr o syndod pan hanerodd Andy Sandell y fantais gyda chic rydd dda o bellter eiliadau cyn y chwiban hanner.

Dechreuodd Casnewydd yr ail hanner yn addawol hefyd ond yr ymwelwyr a sgoriodd y gôl nesaf holl bwysig yn erbyn llif y chwarae. Dim ond newydd ddod i’r cae fel eilydd yr oedd Bradley Bubb pan rwydodd yn dilyn gwaith creu Lee Sawyer.

Parhau i bwyso a wnaeth Casnewydd wedi hynny ac er i’r eilydd, Michael Flynn, benio ail i’r tîm cartref, fe ddaliodd Woking eu gafael ar y tri phwynt.

Mae Casnewydd yn aros ar frig tabl y Blue Square er gwaethaf y canlyniad ond mae Luton bellach yn dynn ar eu sodlau ar ôl trechu Forest Green.

(Cafodd gêm Wrecsam yn Braintree ei gohirio)

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, Hughes, James, Porter, Minshull, Swallow (Conor Washington 81’), Sandell, Thomson (Louis 71’), Evans (Flynn 84’), O’Connor, Crow

Goliau: Sandell 45’, Flynn 89’

Woking

Tîm: Howe, Newton, Mike, McNerney, Parkinson, Johnson (Sinclair 84’), Ricketts, Betsy, Sawyer, McCallum (Doyle 90’), Pires (Bubb 65’)

Goliau: Betsy 6’, 15’, Bubb 67’

Cerdyn Melyn: Ricketts 25’

Torf: 2,088