Caerdydd 4–0 Burnley
Ennill gartref fu hanes Caerdydd unwaith eto brynhawn Sadwrn wrth i Burnley ymweld â Stadiwm y Ddinas. Mae’r Adar Gleision bellach wedi ennill saith allan o saith gartref yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.
Roedd goliau Joe Mason a Craig Noone cyn yr egwyl ynghyd â dwy arall gan Matthew Connolly ac Aron Gunnarsson yn yr ail hanner yn hen ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth, buddugoliaeth sy’n codi Caerdydd yn ôl i frig y Bencampwriaeth.
Tri munud yn unig a gymerodd hi i Gaerdydd agor y sgorio. Tarodd ergyd Noone yn erbyn y postyn ond rhwydodd Mason ar yr ail gynnig.
Bu ond y dim i Mason ddyblu’r fantais hanner ffordd trwy’r hanner ond tarodd ei gynnig yntau yn erbyn y postyn y tro hwn.
Ond roedd hi’n ddwy cyn yr egwyl ac un o chwaraewyr gorau’r hanner, Noone, oedd y sgoriwr. Roedd hi’n ergyd dda o du allan i’r cwrt cosbi gan y chwaraewr canol cae ond efallai y dylai Lee Grant yn y gôl i Burnley fod wedi gwneud yn well.
Daeth Noone yn agos i’w gwneud hi’n dair yn gynnar yn yr ail hanner ond daeth y pren i achub Burnley eto wrth i’r ergyd daro’r trawst.
Ond dim ond mater o amser oedd hi tan i Gaerdydd selio’r fuddugoliaeth a gwnaethant hynny gyda dwy gôl yn y deg munud olaf.
Peniodd Matt Connolly gic gornel Peter Wittingham i gefn y rhwyd wrth y postyn agosaf i ddechrau cyn i Gunnarssonn sgorio oddi ar y fainc am yr eildro mewn wythnos wedi i Rudi Gestede benio’r bêl i’w lwybr yn y cwrt cosbi.
Buddugoliaeth gyfforddus i’r Adar Gleision yn y diwedd felly ond buddugoliaeth haeddianol a buddugoliaeth sydd yn eu codi yn ôl i frig y Bencampwriaeth wedi i Gaerlŷr golli gartref yn erbyn Crystal Palace.
Ymateb Malky
“Roeddem yn chwarae yn erbyn prif sgorwyr y gynghrair a’r prif sgoriwr yn Charlie Austin, felly fe wnaethom yn dda i gadw llechen lân a chymryd ein cyfleoedd yn y pen arall, dwi’n hapus iawn.”
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Taylor, Hudson, Turner, Connolly, Whittingham, Cowie, Kim Bo-Kyung (Gunnarsson 78’), Noone (Frei 83’), Mason, Helguson (Gestede 63’)
Goliau: Mason 3’, Noone 41’, Connolly 82’, Gunnarsson 85’
Burnley
Tîm: Grant, Trippier, Duff, Shackell, Mills, McCann, Marney, Stanislas (Vokes 46’), Stock (Stewart 78’), Paterson (Ings 72’), Austin
Cerdyn Melyn: Mills 53’
Torf: 21,191