Gweilch 26–9 Connacht

Cafodd y Gweilch fuddugoliaeth a phwynt bonws yn y RaboDirect Pro12 yn erbyn Connacht ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd y tîm cartref ddau gais yn y deugain agoriadol ac yna dau arall yn yr ail hanner i hawlio pum pwynt o’r gêm.

Hanner Cyntaf

Cafodd y Gweilch ddechrau da diolch i gais yr asgellwr ifanc, Eli Walker, wedi chwarter awr o chwarae.

Saith pwynt o fantais i’r tîm cartref felly yn dilyn trosiad Dan Biggar ond roedd Connacht yn ôl o fewn pwynt bum munud cyn yr egwyl diolch i ddwy gic gosb o droed cyn faswr y Gleision, Dan Parks.

Ond y Cymry a gafodd y gair olaf cyn y chwiban hanner wrth i’r blaenasgellwr, Justin Tupiric, sgorio ail gais y tîm cartref. Ac er i Biggar fethu’r trosiad roedd gan y Gweilch chwe phwynt o fantais wedi deugain munud.

Ail Hanner

Dechreuodd yr ail hanner fel y gorffennodd y cyntaf, gydag aelod o reng ôl y Gweilch yn sgorio cais. Jonathan Thomas oedd y sgoriwr y tro hwn yn dilyn rhyng-gipiad. Trosodd Biggar i roi tri phwynt ar ddeg rhwng y ddau dîm.

Bu bron i’r tîm cartref sgorio eto’n fuan wedyn yn dilyn bylchiad arall gan yr asgellwr dyheig, Walker, ond aeth y bas olaf ymlaen.

Llwyddodd Parks gyda chic gosb arall wedi hynny i gau’r bwlch i ddeg pwynt ond y Gweilch a gafodd y gair olaf wrth i gais Kahn Fotuali’i wyth munud o’r diwedd sicrhau’r pwynt bonws yn ogystal â’r fuddugoliaeth. Trosodd Biggar y cais hwnnw hefyd wrth iddi orffen yn 26-9 o blaid y tîm cartref.

Hon oedd pedwaredd buddugoliaeth y Gweilch yn olynol yn y gynghrair ac mae’r canlyniad yn eu codi i’r pedwaredd safle yn y Pro12.

.

Gweilch

Ceisiau: Eli Walker 15’, Justin Tipuric 37’, Jonathan Thomas 42’, Kahn Fotuali’i 72’

Trosiadau: Dan Biggar 15’, 42’, 72’

Connacht

Ciciau Cosb: Dan Parks 31’, 34’, 52’