Caeredin 28–29 Scarlets


Sicrhaodd y Scarlets fuddugoliaeth yn erbyn Caeredin ym Murrayfield nos Wener diolch i gic hwyr Rhys Priestland.

Roedd olwyr Bois y Sosban ar dân yn y deugain agoriadol ac roedd y pwynt bonws yn ddiogel erbyn hanner amser. Ond cadwodd cicio cyson Harry Leonard Gaeredin yn  y gêm gan olygu fod angen y tri phwynt tyngedfenol o droed Priestland ddau funud cyn y chwiban olaf.

Hanner Cyntaf

Y tîm cartref ddechreuodd orau gyda Tim Visser yn croesi am y cais agoriadol wedi llai na deg munud. Daeth yr asgellwr mawr i mewn oddi ar ei asgell cyn chwalu ei ffordd trwy’r canol i sgorio o dan y pyst.

Saith pwynt o fantais i’r tîm cartref felly yn dilyn trosiad Leonard ond roedd y Scarlets yn gyfartal o fewn dim diolch i gais George North a throsiad Aled Thomas.

Adferodd Leonard fantais Caeredin gyda chic gosb cyn i’r Scarlets daro’n ôl gyda chais arall. Y canolwr, Nick Reynolds, oedd y sgoriwr y tro hwn yn dilyn bylchiad gwreiddiol Gareth Davies. Ychwanegodd Thomas y trosiad i roi pedwar pwynt o fantais i’r ymwelwyr hanner ffordd trwy’r hanner.

Ymatebodd Leonard gyda chic arall cyn i’r Scarlets daro’n ôl drachefn gyda chais unigol da gan North, ei ail ef a thrydydd y tîm. Ond gan i Thomas fethu a throsi hwnnw roedd Caeredin yn gyfartal ychydig funudau cyn yr egwyl diolch i gic gosb arall o droed Leonard.

Ac roedd hi’n ymddangos ei bod am aros felly tan hanner amser ond roedd gan Gareth Davies syniadau gwahanol. Hyrddiodd y mewnwr drosodd gyda symudiad olaf yr hanner ac roedd gan y Scarlets saith pwynt o fantais yn dilyn trosiad Thomas.

Ail Hanner

Roedd Davies yn ei chanol hi eto ar ddechrau’r ail hanner, ond am y rhesymau anghywir y tro hwn – yn derbyn cerdyn melyn ac yn cael ei anfon i’r gell gosb am ddeg munud.

Yn ystod y deg munud hynny fe fanteisiodd Leonard gyda dwy gic gosb i ddod â’r Albanwyr o fewn pwynt, ac roedd y tîm cartref ar y blaen chwarter awr o’r diwedd diolch i seithfed cic gosb lwyddiannus y maswr.

Roedd dipyn o bwysau ar gic Priestland ddau funud o’r diwedd felly, ei gynnig cyntaf ers dod i’r cae fel eilydd hanner fforddd trwy’r hanner. Ond cadwodd y maswr ei ben i sicrhau bod y Scarlets yn dychwelyd i orllewin Cymru gyda phum pwynt.

Mae’r pum pwynt hynny yn eu cadw yn ail yn nhabl y Pro12, bwynt y tu ôl i Ulster sydd wedi chwarae un yn llai.

.

Caeredin

Cais: Tim Visser 8’

Trosiad: Harry Leonard 9’

Ciciau Cosb: Harry Leonard 19’, 25’, 29’, 36’, 54’, 59’ 66’

Scarlets

Ceisiau: George North 14’, 33’, Nick Reynolds 20’, Gareth Davies 40’

Trosiadau: Aled Thomas 15’, 21’, 40’

Cic Gosb: Rhys Priestland 78’

Cerdyn Melyn: Gareth Davies 50’